Helygain

Helygain
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,788 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2325°N 3.1833°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000991 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ211714 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auBecky Gittins (Llafur)
Map

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Helygain ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Halkyn),[1] ond hefyd clywir rhai o drigolion y pentref yn ei alw'n "Lygian". Fe'i lleolir tair milltir i'r de-orllewin o dref Y Fflint, rhwng Pentre Helygain i'r gorllewin a Llaneurgain i'r dwyrain, ar lôn yr A55. Ceir Swyddfa Post, eglwys, tafarn a llyfrgell yno. Saif ar lethrau gogleddol Mynydd Helygain, sydd gerllaw.

Mae Pentre Helygain yn un o "blwyfi hynafol" Sir y Fflint. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys trefi canoloesol Hendrefigillt, Llugan y Llan a Llugan y Wern. Cyfeirir at y pentref yn Llyfr Dydd y Farn dan yr enw Alchene.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]

  1. British Place Names; adalwyd 15 Hydref 2022
  2. Halkyn yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search